22 Mawrth 2019
Annwyl Syr Bernard Jenkin
Rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018
Dymunwn dynnu eich sylw at reoliadau sydd i’w gwneud gan Weinidogion y DU o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Y mater sy’n codi gyda'r rheoliadau hyn yw bod anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch ffiniau datganoli yng Nghymru.
Y rheoliadau hynny yw:
- Rheoliadau Cymorth Gwladol (Amaethyddiaeth a Physgodfeydd) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 - lle mae anghytuno rhwng y ddwy lywodraeth ynghylch a yw cymorth gwladol wedi'i ddatganoli.
- Rheoliadau Bwyd a Diod, Meddyginiaethau Milfeddygol a Gweddillion (Diwygiadau etc) (Ymadael â'r UE) 2019; Rheoliadau Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 a Rheoliadau Bwyd a Ffermio (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 - lle mae anghytundeb rhwng y ddwy lywodraeth o ran enwau bwyd gwarchodedig ac arwydd daearyddol bwyd mae cynlluniau wedi'u datganoli.
Yn yr achosion hyn, rydym yn deall bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru y bydd gan Lywodraeth Cymru rôl yn y gwaith o weithredu'r cynlluniau sy'n ymwneud â chymorth Gwladwriaethol ac arwydd daearyddol bwyd ac ati. Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd o'r fath, a bod Llywodraeth Cymru wedi’i dderbyn, yn ddiffuant, nid ydym yn credu mai dyma yw’r ffordd y dylid datrys anghytundebau ynghylch ffiniau datganoli.
Mae’r ffaith bod anghytundebau o’r fath yn parhau hyd heddiw yn hynod siomedig o ystyried mai diben symud pwerau’r Cynulliad i fodel cadw pwerau oedd sicrhau eglurdeb o ran ffiniau datganoli yng Nghymru.
Yr eiddoch yn gywir,
Mick Antoniw
Cadeirydd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.